Home
What's On How to Book Where we are History of Wyeside Contact Us Access Conference Hire Perfformiadau bywAdvertise with us SAVE
WYESIDE
ARTS CENTRE!
Please sign our online petition.Mae'r swyddfa ar agor:
Dydd Mawrth tan Ddydd Gwener: 12:30pm - 4:00pm/ 5:30pm - 9:00pm
Dydd Sadwrn: 5:30pm - 9:00pm
Dydd Sul : 5:30pm - 9:00pm
Gallwch archebu ar-lein yn y wefan www.wyeside.co.uk I gael diweddariadau am ein sioeau byw
a'r rhaglen ffilmiau am ddim trwy e-bost, gyrrwch neges at marketingwyeside@powys.org.uk
18 oed ac iau am ddim
Gyda rhai sioeau byw, mae Wyeside yn cynnig tocyn i unrhyw un dan 18 oed yn rhad ac am ddim gyda phob tocyn arall a brynir.
Chwiliwch am y logo!
Cyflwyniad ar y cyd rhwng Mappa Mundi/Theatr Mwldan/Creu Cymru Mappa Mundi
The Importance of Being Earnest
Un o gomedïau gorau a mwyaf poblogaidd Oscar Wilde, sy'n anelu ei feirniadaeth finiog at foesau a hunanbwysigrwydd y crachach cymdeithasol. Bydd y gynulleidfa yn cael gwledd yn y perfformiad yma fydd yn eu caniatáu i werthfawrogi llinellau craff Wilde yn eu holl ogoniant.
Dydd Sadwrn 17 Mai 7.30pm
£8/£10/£5 18 ac iau am ddim
Puppet State Theatre Company
The Man Who Planted TreesAddasiad hudol a doniol o sioe Jean Giono fydd yn apelio at bob un o'r synhwyrau. Hanes un dyn a'i gi sy'n ceisio trawsnewid diffeithdir gwyllt.
Ar gyfer oedolion a phlant dros 7
(er y bydd y mwyafrif o blant 5 a 6 oed wrth eu bodd hefyd). 55 munud.
Dydd Iau 22 Mai 1.30pm a 7pm
£3 plant /£5 dros 18
Dewi Ellis JonesOfferynnwr taro o allu anhygoel, mae gan Dewi berthynas rwydd iawn gyda'r gynulleidfa. Gan berfformio ar ei ben ei hun mae Dewi yn creu rhythmau a cherddoriaeth syfrdanol - o'r emosiynol i'r gwefreiddiol.
Dydd Sadwrn 24 Mai 7.30pm
£8/£10/£5 18 oed ac iau am ddim
The StrawbsDaeth The Strawbs i amlygrwydd nol ym 1973, ac yr un aelodau gwreiddiol fydd yn perfformio yn y sioe hon 35 o flynyddoedd ar ôl perfformio gyda'i gilydd am y tro cyntaf.
Dydd Mercher 28 Mai 7.30pm
£13/£15/£5
Tribute to Led Zeppelin
Whole Lotta LedPedwar cerddor talentog wedi'u hymrwymo i ail-greu clasuron un o'r grwpiau roc gorau erioed - Led Zeppelin. Er nad ydyn nhw'n edrych fel eu harwyr mae'r swn a'r profiad yn anhygoel.
Dydd Sadwrn 7 Mehefin 8pm
£12/£14
"One of the best new plays of the year" The Times **** YELLOW MOON Stori Bonnie a Clyde modern am ferch a bachgen yn eu harddegau sy'n ffoi rhag yr awdurdodau. Merch dawel a mewnblyg yw Leila sy'n dwli ar gylchgronnau am ser ac enwogion. Bachgen di-gyfeiriad o dref ddi-nod yw Lee Macalinden. Doedd yr un ohonyn nhw wedi bwriadu ymhel â lllofruddiaeth…ond nawr mae angen lle arnyn nhw i guddio. Mae'r ddrama yn dilyn helyntion y ddau wrth iddyn nhw geisio deall pwy yn union ydyn nhw. Mae Yellow Moon yn archhwilio i ystyr bywyd mewn byd sydd ag obsesiwn gydag enwogrwydd, a'r hyn sy'n diffinio rhywun pan maen nhw'n 17 oed.
Dydd Gwener 6 Mehefin
1.40pm a 7.30pm
Perfformiad prynhawn £4
£7 ymlaen llaw /£9 ar y diwrnod £5 i rai 18 oed ac iau
Mark Latimer
Pianydd hynod dalentog yw Mark Latimer sydd wedi cael ei gymharu o ran ei dechneg gyda Horowitz. Mae e wedi perfformio gyda Syr Adrian Boult, Vilem Tausky, Paul Tortelier, Campoli a Phedwarawdau Amadeus a Brodsky. Roedd yn athro yng Ngholeg Cerdd Llundain cyn ei fod yn 20 oed a bellach mae'n dysgu ym Mhrifysgol Cymru.
Dydd Sadwrn 14 Mehefin 7.30pm
£8 £10 £5 18 oed ac iau am ddim
.30pm £8 £10 £5 18 oed ac iau am ddim
“All proceeds from this concert are generously being donated by Mark Latimer to the Save Wyeside Arts Centre campaign”
Cantores a chyfansoddwraig o America Christene LeDouxMae caneuon twymgalon Christene LeDoux yn ennill enw da iddi yn y diwydiant ac ymhlith nifer cynyddol o ddilynwyr. Fe werthodd hi 11,000 copi o'i halbwm gyntaf "Little Lighthouse" yn annibynnol. Mae ei harddull yn atgoffa rhywun o lais swynol Enya.
Dydd Mawrth 24 Mehefin 7.30pm
£8/£10/£5
Links to music sites